https://commonshansard.blog.parliament.uk/gwnewch-y-pethau-bychain-welsh/
Gwnewch y pethau bychain
Un o’r dywediadau mwyaf adnabyddus yn yr iaith Gymraeg yw’r geiriau a ynganwyd gan Dewi Sant ychydig cyn ei farwolaeth: “Gwnewch y pethau bychain”. Mae yna lawer o bethau bychain yn mynd ymlaen tu ôl i’r lleni yn San Steffan—pethau sy’n hanfodol er mwyn sicrhau bod pob dim yn rhedeg yn esmwyth, a ffocws y post blog yma yw sut rydym ni yn Hansard yn mynd ati i gofnodi cyfraniadau trwy gyfrwng y Gymraeg.
Fel bydd darllenwyr y blog hwn yn gwybod, nid Saesneg yw unig iaith Hansard, ac mae’r un peth yn wir am ei staff. Rwy’n siaradwr Cymraeg iaith gyntaf o Gaerdydd sydd wedi bod yn gweithio i Hansard ers rhyw 10 mlynedd. Ar ymuno, wnes i erioed dychmygu y byddai fy ngwybodaeth o’r iaith Gymraeg yn chwarare rhan mor bwysig yn fy ngwaith, ond rwy’n falch iawn i ddweud bod y twf yn ei defnydd yn Nhy’r Cyffredin dros y blynyddoedd diwethaf wedi cael ei hwyluso gan Hansard.
Yr iaith Gymraeg
Mae’r Gymraeg yn un o’r ieithoedd byw hynaf yn Ewrop; yn sicr hi yw’r iaith fyw hynaf yn y DU. Yn ôl cyfrifiad 2011, mae yna 562,000 o bobl (tua un pumed o boblogaeth Cymru) yn medru’r Gymraeg. Does dim syndod felly bod Aelodau Seneddol sy’n cynrycholi etholaethau Cymreig—ac eraill—yn awyddus i’r iaith a’i siaradwyr gael eu cynrychioli yn San Steffan. Ond er gwaethaf hanes cyfoethog y Gymraeg a’i statws gymharol iach fel iaith leiafrifol, nid yw hynny’n wastad wedi bod yn bosib.
Pa fodd y gall neb wybod beth a ddywedir?
Mae pethau wedi newid ers i Gwynfor Evans, Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru, ofyn ym 1966 am ganiatâd i gymryd y llw teyrngarwch yn y Gymraeg. Wrth wrthod y cais, crybwyllodd y Llefarydd, Horace King, Epistol Cyntaf Paul at y Corinthiaid: “os na thraethwch air y gellir ei ddeall, pa fodd y gall neb wybod beth a ddywedir?”
Yn ogystal, roedd gan y Llefarydd King bryderon am faterion ymarferol eraill:
The Official Reporters in the Gallery are not required to have any knowledge of the Welsh language and it would make their task infinitely more difficult if hon. Members were to speak in languages other than English. I hope, therefore—and I speak most sincerely—that the hon. Gentleman will understand that, in ruling against his request, I am not doing so in any sense of rebuke or of any disrespect to a very noble language, but I must rule as I have ruled.—[Official Report, 21 July 1966; Vol. 732, c. 880.]
Yn y blynyddoedd ers hynny mae mwy a mwy o ASau wedi ceisio caniatâd i ddefnyddio’r iaith Gymraeg yn ystod trafodaethau’r Senedd. Ac nawr bod gan Hansard nid un ond tri aelod o staff sy’n siarad Cymraeg, nid yw dyfarniad y Llefarydd King yn berthnasol mwyach.
Yr Uwch Bwyllgor Cymreig
Dywed Erskine May, y prif awdurdod ar y weithdrefn seneddol:
Speeches must be made in English, but quotation in another language has been allowed on occasion, though a translation should be provided.
Er hynny, ar 5 Mehefin 1996, cytunodd Ty’r Cyffredin,
whilst English is and should remain the language of this House, the use of Welsh be permitted in parliamentary proceedings held in Wales
Cafodd hyn effaith sylweddol ar yr Uwch Bwyllgor Cymreig, yn cynnwys y 40 AS sy’n cynrychioli etholaethau Cymreig, ac eraill, sy’n cwrdd yn achlysurol—yn San Steffan ac yng Nghymru—er mwyn trafod materion o bwys i Gymru, yn cynnwys Araith y Frenhines, y Gyllideb a deddfwriaethau perthnasol eraill.
Ac felly, ar 30 Mehefin 1997, cyfarfu’r Uwch Bwyllgor Cymreig yn yr Wyddgrug, gogledd Cymru, ar gyfer y sesiwn cyntaf lle caniatwyd i ASau gyfrannu trwy gyfrwng y Gymraeg a lle defnyddiwyd cyfleusterau cyfiethu ar y pryd. Fodd bynnag, Saesneg yn unig oedd iaith Cofnod Swyddogol Hansard, felly’r cyfieithiad ar y pryd a gofnodwyd yn hytrach na’r Gymraeg wreiddiol.
Dydd Gwyl Dewi 2017
Ond nid dyna oedd diwedd y stori, wrth i ASau o amryw bleidiau barhau i ddadlau am yr hawl nid yn unig i siarad Cymraeg yn yr Uwch Bwyllgor Cymreig yn San Steffan ond i’w cyfraniadau Cymraeg gael eu cynnwys ochr wrth ochr â’u cyfieithiadau Saesneg yn y Cofnod Swyddogol. Ar 1 Mawrth 2017—Dydd Gwyl Dewi—cytunodd y Ty i’r gofynion.
Diwrnod hanesyddol
Roedd dydd Mercher 7 Chwefror 2018 yn ddiwrnod hanesyddol, gydag Aelodau am y tro cyntaf yn gwneud areithiau Cymraeg yn yr Uwch Bwyllgor Cymreig yn San Steffan. Dyma oedd y tro cyntaf hefyd i’r fath areithiau gael eu cofnodi’n ddwyieithog. Cynorthwywyd ein Gohebwyr Seneddol gan ddau gyfieithydd ar y pryd rhagorol a deithiodd o Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Siaradwyd crin dipyn o Gymraeg—tua 1.5 awr allan o 2 yn y bore, a chyfran tebyg yn y prynhawn—yn cynnwys gan yr Ysgrifennydd Gwladol, Alun Cairns, a gyflwynodd y mwyafrif helaeth o’i araith agoriadol 40 munud yn ei famiaith. Prin oedd y rhai hynny a siaradodd dim Cymraeg o gwbl. Roedd aelodau staff Hansard wedi derbyn hyfforddiant o flaen llaw ar eiriau ac ymadroddion Cymraeg a allai ymddangos mewn cyfraniadau Saesneg—“Diolch yn fawr”, er enghraifft, a “Llongyfarchiadau”—ond ein staff Cymraeg a gofnododd yr areithiau ac ymyriadau Cymraeg. Cyhoeddwyd y sesiwn foreol dros nos ar 7 Chwefror, a sesiwn y prynhawn y diwrnod canlynol.
Y Dyfodol
Yn dilyn ein llwyddiant yn hwyluso cyfarfod dwyieithog cyntaf yr Uwch Bwyllgor Cymreig yn San Steffan, mae Hansard bellach yn cynorthwyo’r Pwyllgor Dethol Materion Cymreig, sy’n craffu ar effeithiau polisau’r Llywodraeth ar Gymru, trwy drefnu cyfleusterau cyfieithu ar y pryd ar gyfer ei sesiynau dwyieithog a thrwy gynhyrchu cofnodion dwyieithog. Pa bynnag heriau sy’n codi yn y dyfodol, rydym yn sicr o barhau i wneud y pethau bychain sy’n helpu sicrhau bod San Steffan yn rhedeg yn esmwyth.